Sialens Ddarllen yr Haf / Summer Reading Challenge

Sialens Ddarllen yr Haf yw rhaglen darllen er pleser fwyaf y DU i blant, ac mae am ddim.  Mae’r Sialens yn cael ei chynnal yn flynyddol ac yn annog plant 4 i 11 oed i ddal ati i ddarllen yn ystod gwyliau’r haf.

Gall sgiliau darllen plant wanhau  yn ystod gwyliau hir yr haf os nad oes ganddynt fynediad rheolaidd at lyfrau ac anogaeth i ddarllen er pleser. Gall hyn fod yn broblem i ysgolion ei hunioni yn y tymor newydd. Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn helpu drwy gyrraedd dros 700,000 o blant yn rheolaidd bob blwyddyn, gan eu hysgogi i ymweld â’r llyfrgell a pharhau i ddarllen yn ystod y gwyliau, gan helpu i gynnal eu sgiliau darllen a’u hyder.

I gymryd rhan y cyfan sydd angen i’r plant ei wneud yw darllen 6 llyfr llyfrgell dros wyliau’r haf, a phob tro maen nhw’n ymweld â’r llyfrgell maen nhw’n cael gwobrau hwyliog, gan gynnwys medal a thystysgrif os ydyn nhw’n cwblhau’r Her. Mae’n hwyl ac yn rhad ac am ddim, a bydd gennym hefyd weithgareddau yn ein llyfrgelloedd i gefnogi’r thema eleni, sef ‘ Ar Eich Marciau, Darllenwch!’.

Byddwn yn gwerthfawrogi’n fawr pe gallech hyrwyddo’r cynllun i athrawon a rhieni  – Rwyf wedi atodi rhai taflenni gyda mwy o wybodaeth.

**************************************************

The Summer Reading Challenge is the UK’s biggest free reading for pleasure programme for children. Taking place annually, the Challenge encourages children aged 4 to 11 to keep reading during the summer holidays.

Children’s reading can ‘dip’ during the long summer break if they don’t have regular access to books and encouragement to read for pleasure. This can be a problem for schools to put right in the new term. The Summer Reading Challenge helps by regularly reaching over 700,000 children each year, motivating them to visit the library and keep reading during the holidays, and in turn helping them to maintain their reading skills and confidence.

To take part all the children need to do is read 6 library books over the summer holidays, and each time they visit the library they get fun rewards, including a medal and certificate if they complete the Challenge. It’s fun and free, and we will also have activities in our libraries to support the theme, which this year is ‘Ready Set Read!’