Mae cynnig arbennig wedi cyrraedd yr ysgol i blant Blwyddyn 3 fwynhau perfformiad ddramatig awyr agored yng Nghastell Rhuddlan dydd Gwener yma, Medi 30ain, 2022. Caiff y plant gyfle i fynd ar bws o’r ysgol i fwynhau perfformiad o chwedlau’r Mabinogion gan gwmni ‘Mewn Cymeriad’.
Ni fydd gost i’r disgyblion ac ariannir hyn drwy nawdd grant celfyddydol. Mae Menter Iaith Dinbych hefyd wedi ymwymo oi gefnogi costau teithio / cludiant. Diolch iddynt am hyn.
Trefniadau:
- 1. Gadael Ysgol y Llys yn brydlon ar fws am 12.30yp. (Trefniadau cinio arferol)
- 2. Perfformiad i gychwyn am 1.00yp ac i bara oddeutu 1 awr a 10 munud. Bws yn dychwelyd i Ysgol y Llys am 2.15yp o Gastell Rhuddlan.
- 3. Gyda’r tywydd yn debyg o fod yn ansefydlog, gofynnwn fod gan bob plentyn got law neu got cynnes.
- 4. Bydd staff ysgol yn bresennol ac yn cefnogi’r ymweliad.
- 5. Thema’r perfformiad ydi chwedlau’r Mabinogion.
Rydym yn dra ddiolchgar am y cynnig yma, ac eto am gydweithrediad Mewn Cymeriad a Menter Iaith Dinbych.
Hyderwn y bydd y plant yn mwynhau’r profiad. Os nad ydych yn dymuno i’ch plentyn fynd ar y daith yma, cysylltwch a’r ysgol drwy ebost (ysgol.yllys@sirddinbych.gov.uk) neu drwy neges i Mrs Bethan Hughes neu Mrs Emma Robertshaw drwy SEESAW.
Year 3 pupils have been offered the opportunity to visit Rhuddlan Castle this Friday (Sep 30th) to enjoy a free dramatic presentation by the touring company ‘Mewn Cymeriad’. Details as follows;
- 1. Pupils to leave Ysgol y Llys by bus at 12.30pm (Pupils will have their lunch earlier at 12.00pm- school meal or packed lunch as is their normal preference.
- 2. Performance to begin in the castle grounds at 1.00pm. Will last approx 1 hour and 10 minutes. Bus will leave Rhuddlan Castle at 2.15pm to return to Ysgol y Llys by 2.30pm. Home time arrangements as usual.
- 3. Weather is quite intermittent at the moment- so please ensure your child has a warm coat / raincoat to wear.
- 4. Staff will accompany pupils on the visit.
- 5. The theme of the production is ‘The Mabinogion’- historical folktales associated with Wales- our language and culture.
We are very grateful for this opportunity- the event is grant funded including costs for transport.
Should you not wish your child to attend, please email the school at ysgol.yllys@denbighshire.gov.uk or cpontact either Mrs Bethan Hughes, or Mrs Emma Robertshaw via SEESAW message.