Fe dderbynnir y wybodaeth angenrheidiol pan fydd y rhieni yn cwblhau Ffurflen A a’r Ffurflen Dderbyn pan fydd y plentyn yn cael ei dderbyn gyntaf i’r ysgol. Mae’n bwysig eich bod yn gadael i ni wybod os bydd y wybodaeth wedi newid ar unrhyw adeg yn ystod gyrfa ysgol eich plentyn.
* Apwyntiad –
mae Cyngor Sir Ddinbych yn hyrwyddo ffurflenni cadarnhau apwyntiadau gyda gwasanaeth iechyd. Os oes gan eich plentyn apwyntiad rhaid llenwi’r ffurflen apwyntiadau â cheir o swyddfa’r ysgol.
Ffisig / Moddion –
Deallwn ar brydiau fod angen meddyginiaeth ar eich plentyn yn yr ysgol. Er mwyn sicrhau fod moddion yn cael ei gweinyddu’n gywir, mae ffurflen briodol ar gael o’r dderbynfa i rieni gwblhau ac i roi caniatad.