YSGOL Y LLYSLles Gwerin, Llys Agored Rhodfa'r Tywysog, Prestatyn, Sir Ddinbych LL19 8RP

Gwybodaeth Ddefnyddiol


Oriau Ysgol

  • Meithrin 9.00yb – 11.30yb, 12.30yp – 3.00yp

  • Babanod 8.55yb – 12.00 : 12:55yp – 3.00yp

  • Iau 8.55yb – 12.00 : 12:55yp – 3.15yp

Oriau a dreulir yn dysgu’r plant

  • Dysgu Sylfaen 21 awr

  • Adran Iau 23 awr 30 munud


Gofynnir i rieni plant dosbarth Meithrin ddod a’i plentyn i’r ysgol gan ddefnyddio giat Cylch ger yr Uned Dan 5. Agorir giatiau’r Cylch am 8:55. Ni chaniateir mynediad cyn hyn. Disgwylir i bob rhiant sy’n casglu ei plentyn o’r Meithrin am 11.30 a 3.00 o’r gloch aros tu allan yr un giat (fel uchod), ac yna bydd aelod a’r staff yn trosglwyddo’r plentyn i’w gofal.

Bydd plant y Dosbarth Derbyn yncael eu trosglwyddo gan staff ger giat ‘Gareth Bale’ a r y buarth sydd ger y brif dderbynfa. Yn y boreau bydd angen i’r rhieni ddod a’u plant at ddrws y Dosbarth Derbyn tu cefn i’r Uned Dan 5. Bydd y drws ar agor o 8.50 y bore hyd 9.00 o’r gloch.

Prydau Ysgol a Llefrith

Paratoir prydau bwyd yn yr ysgol. Mae pryd ffurfiol i’r plant a bydd llefrith ar gael yn ystod yr amser chwarae boreol, i’r Cyfnod Sylfaen yn unig.

O Fis Medi 2023, bydd cinio ysgol am ddim yn cael eu cynnig i bob ddisgybl oes statudol yn yr ysgol. Annogwn bob teulu i ymgymryd a’r cynnig yma. Cynllun sydd wedi ei ariannu gan Llywodraeth Cymru.

Cyfathrebu ar Lein

Mae gan yr ysgol wefan ddefnyddiol, sef www.ysgolyllys.cymru. Yno ceir wybodaeth a lluniau diweddaraf am yr ysgol ynghyd a dyddiadau/calendr digwyddiadau am y flwyddyn.

Hefyd, mae gennym gyfrif X swyddogol sef @YYllys – caiff ei ddiweddaru’n gyson ac yn ffordd effeithiol o rannu gwybodaeth. Mae cyfrif swyddogol Ysgol y Llys ar Facebook (Ysgol y Llys) a chyfrif Instagram (ysgol_y_ysgol).

Cyngherddau Ysgol/Gwasanaethau Arbennig

Mae llawer o achlysuron pryd y gwahoddir rhieni a chyfeillion i gyngherddau a gwasanaethau arbennig, a gwerthfawrogir eu cefnogaeth yn fawr iawn, yn enwedig gan y plant.

Trosgwlyddo i Ysgol Uwchradd

Bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion Ysgol y Llys yn trosglwyddo i Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Mae ffurfflenni dewis ar gael ar wefan Cyngor Sir Ddinbych, i rieni eu cwblhau, ar gychwyn y flwyddyn academaidd.

Mae cydweithio agos rhyngom ag Ysgol Glan Clwyd, a bydd cyfle i’r plant ymweld a’r ysgol Uwchradd nifer o weithiau o Flwyddyn 5 ymlaen. Caiff y rhieni gyfle i ymweld â’r ysgol cyn y trosglwyddiant.

Cyfle Cyfartal

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn cefnogi y Cynllun Cydraddoldeb Strategol Ysgol y Llys.

Ni wahaniaethir yn erbyn pobl ar sail oedran, anabledd, hil, crefydd, rhyw, rhywioldeb neu allu yn wahanol i’w un nhw. Am fwy o fanylion, ewch i gwefan www.ysgolyllys.cymru.

Anabledd

Y mae’r ysgol yn cyfarfod y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac wedi paratoi cynllun ar ei gyfer.

Addysg Grefyddol

Nid yw’r ysgol yn dal cysylltiad uniongyrchol a ffurfiol ag unrhyw enwad crefyddol, ond gwahoddir gweinidogion/offeiriaid yr ardal i’r ysgol yn achlysurol i annerch y plant. Cynhelir gwasanaethau’n ddyddiol ac mae’r dosbarthiadau yn eu tro yn cynnal y gwasanaethau ar ddydd Gwener.

Mae addysg grefyddol ar daflen amser y dosbarthiadau a disgwylir i’r plant gymryd rhan yn y gwersi a’r gweithgareddau. Dim ond drwy anfon llythyr i’r ysgol gellir gwneud trefniadau ar gyfer plant nad yw eu rhieni am iddynt fynychu’r gwasanaethau a’r gwersi.

Addysg Gorfforol

Disgwylir i bob disgybl gymryd rhan mewn Addysg Gorfforol a chwaraeon. Mae angen llythyr o’r cartref os yw plentyn i gael ei esgusodi am unrhyw reswm arbennig yn gysylltiedig â iechyd.

Cynhelir y Mabolgampau blynyddol yn ystod Tymor yr Hâf ac mae’r plant yn cystadlu i ennill pwyntiau i’w tai – Arthur, Glyndŵr, Llywelyn.

Bydd plant Cyfnod Allweddol 2 yn cystadlu yng ngemau cynghrair yr ardal megis pêl-droed/rygbi/pêl-rwyd a chystadlaethau’r Urdd.

Rydym yn canolbwyntio ar y sgiliau safonol yn ein gwersi Addysg Gorfforol, ond ceir clybiau pêl rwyd, pêl droed, rygbi, athletau, dawns a.y.y.b. ar ôl oriau ysgol. Defnyddir hyfforddwyr proffesiynol i gefnogi gwaith staff yr ysgol.

Gwaith Cartref

Gosodir gwaith cartref yn ôl polisi’r ysgol ac ewyllys yr athro/athrawes ac sy’n cyd-fynd ac anghenion y plant.

Anogir y rhieni i ddarllen i’w plant gartref ac i helpu’r plant eu hunain i ddarllen llyfrau a anfonir adref o’r ysgol. Mae gan bob plentyn record darllen cartref/ysgol a gofynnir i’r rhieni ysgrifennu sylwadau ynglŷn â’r hyn y mae eu plant yn darllen gartref.

Mae croeso i rieni drafod unrhyw ran o waith eu plentyn a bydd yr athro/athrawes yn fodlon bob amser i drefnu amser addas i wneud hyn.

Adroddiadau

Mae adroddiad disgybl ar ffurf proffil yn cael ei baratoi gan bob athro/athrawes dosbarth tua diwedd y flwyddyn ysgol a gall rhieni drafod hwn hefyd yn ystod y drydedd Noson Agored.

Mae rhieni hefyd yn derbyn adroddiad ysgrifenedig ganol flwyddyn ym mis Chwefror, a gall rieni eu trafod yn ystod yr ail dymor (Noson Agored).

Nosweithiau Agored

Mae nosweithiau agored yn cael eu trefnu tair gwaith y flwyddyn – y cyntaf ar ddechrau’r Flwyddyn Academaidd, yr ail hanner ffordd drwy’r flwyddyn ac wedyn ar ddiwedd y flwyddyn.

Caent eu cynnal mewn sawl ffurf – yn rhithiol, dros School Cloud, yn wyneb wrth wyneb. Mae hyn er mwyn hwylsuo trefniadau i rieni ac wrth ymateb i adborth rhieni.

Yn ystod y cyntaf o’r rhain ym mis Medi caiff y rhieni y cyfle i gyfarfod â’r athrawon i gael sgwrs gyffredinol am raglen gwaith y dosbarth am y flwyddyn. Yn y ddwy noson agored eraill caiff y rhieni os dymunant, amser penodedig i edrych ar waith eu plant a thrafod hyn yn llawn gyda’r athro/athrawes dosbarth. Os, er hynny, bydd pryderon yn codi ar unrhyw adeg ac ar unrhyw agwedd o fywyd ysgol, cysylltwch â ni ar unwaith os gwelwch yn dda, fel y gellir gwneud trefniadau i gael sgwrs.