Hoffwn fel Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol y llys eich hysbysu, yn dilyn proses recrietio trwyadl Dydd Gwener 26.09.24, ein bod wedi penodi pennaeth i Ysgol y Llys.
Penodwyd Mr Rhys Gwyn Griffith a bydd yn trosglwyddo o'i rôl fel Pennaeth Dros Dro i Bennaeth Parhaol. Mae Mr Griffith wedi bod yn dirprwy Bennaeth yn Ysgol y Llys, Prestatyn ers 2015. Edrychwn ymlaen at bennod newydd yn hanes yr ysgol ac iddo arwain staff a chymuned arbennig sydd yma yn Ysgol y Llys.