Gweithdrefnau Tywydd Garw
Nid ar chwarae bach y mae gwneud penderfyniad i gau’r ysgol. Gwneir bob ymdrech i gadw’r ysgol ar agor ond rhaid ystyried nifer o ffactorau- iechyd a diogelwch plant a staff a nifer staff sy’n absennol oherwydd effeithiau’r tywydd.
Yn y gorffennol rydym wedi cau’r ysgol yn gyfan gwbl oherwydd effeithiau tywydd garw a hefyd wedi cau’r ysgol yn rhannol oherwydd ddiffyg staff mewn unedau arbennig. Eto- rhaid pwysleisio gwneir POB ymdrech i aros yn agor. Rhaid cofio hefyd fod nifer fawr o staff Ysgol y Llys yn byw mewn ardaloedd gwledig, a gall effeithiau’r tywydd amrywio’n fawr o ardal i ardal. Dylid cadw hyn mewn cof yn ystod yr achosion prin le effeithir rhediad yr ysgol oherwydd y tywydd.
Os yw penderfyniad yn cael ei wneud i gau’r ysgol- yna hysbysir rhieni cyn gynted ag sydd bosib. Bydd e-bost i rieni gan y Pennaeth a bydd neges yn cael ei gynnwys ar safwe’r ysgol. Cofiwch ddefnyddio’r safwe am y wybodaeth ddiweddaraf. Gall rieni hefyd cysylltu â’r ysgol ar 01745 853019 ben bore am ragor o fanylion.
Gwerthfawrogwn sut y gall cau ysgol effeithio ar rieni- yn enwedig gyda chyfrifoldebau gwarchod plant ac effaith hefyd ar waith. Ceisiwn ein gorau i sicrhau cysondeb a hefyd eich hysbysu cyn gynted ag sydd bosib.