Diogelu

** Swyddogion Diogelu **
Yma yn Ysgol y Llys rydym yn cymryd diogelu disgyblion ac eraill o ddifrif. Rydym yn dilyn canllawiau cenedlaethol a caiff y polisi Diogelu ei ddiweddaru a'i hadolygu yn aml.
Y Pennaeth yw uwch Swyddog Diogelu yr ysgol. Yn ei absenoldeb dylid cyfeirio unrhyw bryderon at unai Mr Sion Jones, Mrs Sophia Rose, Mrs Ffion P Davies, Mrs Emma Robertshaw neu Mrs Sian Jones.
Mae pob aelod o staff wedi derbyn hyfforddiant blynyddol am ddiogelu, gyda'r swyddogion diogelu yn derbyn hyfforddiant pellach er mwyn cyflawni eu rôl. Mae pob aelod o staff yn gwybod beth yw'r camau i ddilyn os caiff pryder ei godi neu ei ddatgelu.
Plant Mewn Gofal
Trwy gydweithio agos ag asiantaethau eraill a’r Awdurdod Lleol cefnogir disgyblion sy’n derbyn gofal yn effeithiol yn yr Ysgol. Mr Rhys Griffith a Mrs Emma Robertshaw, Pennaeth a CADY Ysgol y Llys, sydd a chyfrifoldeb am sicrhau effeithiolrwydd y gefnogaeth y maent yn ei dderbyn a hyrwyddo eu cyflawniad. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd i sicrhau cefnogaeth a chymorth i’r disgyblion hyn a’u gofalwyr.
Sicrheir bod plant sydd angen cymorth addysgol ychwanegol yn derbyn sylw arbennig gan yr athro dosbarth ac yn derbyn cymorth ychwanegol sy’n ddibynnol ar eu hanghenion., e.e. gwaith gwahaniaethol yn y dasg. Yn ogystal â hyn mae Cymhorthydd Addysg Arbennig yn gweithio o dan arweiniad yr athro/athrawes ddosbarth. Mae’r cymhorthydd yn cefnogi plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn wythnosol yntau o fewn y dosbarth neu mewn parau/grŵp bach oddi allan. Gall rhieni weld y polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol a thrafod cynlluniau addysgol eu plant ar unrhyw adeg. Gweler taflen gwybodaeth Addysg Dysgu Ychwanegol i’r rhieni.
Diogelwch Safle
Mae gan Ysgol y Llys safle ysgol ddiogel dros ben. Dylai pob ymwelydd fynd i’r dderbynfa ac mae system electroneg i arwyddo i mewn/allan. Mae safle’r ysgol wedi amglychu efo ffensys diogel ac mae system camerau cylch cyfyng ar draws y safle.
Dilynwn bolisi Iechyd a Diogelwch y Sir ac anelwn i sicrhau safon uchel o iechyd a diogelwch i’r staff, disgyblion ac ymwelwyr, gyda amgylchfyd iach a diogel drwy’r ysgol. Trafodir Iechyd a Diogelwch ym mhob Cyfarfod Llywodraethol a chynhelir dril tân yn reolaidd.
Lleolir blychau Cymorth Cyntaf o amgylch yr ysgol. Mae gwybodaeth bellach ar ymarferion a gweithdrefnau tân ar gael o’r ysgol. Cofnodir damweiniau mewn llyfr damweniau ac os oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â chyflwr plentyn ar ôl damwain, byddwn yn dilyn y trefn yr ysgol o gysylltu âg rhieni.
Mae camerâu CCTV yn archwilio’r safle ac yn recordio yn gyson. Mae drysau allanol wedi eu cloi yn ystod y dydd ac mae mynediad ffob i mewn trwy’r drysau eraill. Cynhelir archwiliadau safle yn aml a byddai’r Llywodraethwyr yn rhan o’r broses hon.
