Cyfraniadau Gwirfoddol
Mae'r Llywodraethwyr yn neilltuo'r hawl i ofyn am gyfraniadau gwirfoddol ar gyfer teithio o fewn oriau'r ysgol (e.e. gwersi nofio)
Codi Tal
Mae'r Corff Llywodraethol yn neilltuo'r hawl i godi tal yn yr amgylchiadau canlynol am weithgareddau a drefnir gan yr ysgol:
- hyfforddiant cerddorol sydd heb fod yn rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol
- gweithgareddau y tu allan i oriau'r ysgol sydd heb fod yn rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol neu Addysg Gorfforol e.e. clybiau a drefnir ar ôl oriau'r ysgol
- teithio y tu allan i oriau'r ysgol
- llety yn ystod y gweithgareddau preswyl canlynol sy'n digwydd o fewn a thu allan i oriau ysgol:-
- ymweliadau â Glan-llyn, Bala (Blwyddyn 5)
- ymweliadau â Gwesyll yr Urdd, Llangrannog (Blwyddyn 6)
- pan niweidir neu collir eiddo neu offer sy'n perthyn i'r ysgol mewn canlyniad i ymddygiad disgybl.