
Mae mynchu ysgol yn rheolaidd a gan sicrhau lefelau presenoldeb uchel yn bwysig iawn ac yn cyfrannu tuag at gynnydd academiadd a llesiant bob plentyn. Diswgyliwn i bob plentyn fod ar y safle o 8.40am ymlaen. Bydd staff ar ddyletswydd buarth o 8.40yb i groesawu disgyblion.
- Os yw’ch plentyn yn absennol o’r ysgol, gofynnwn i chwi gysylltu â’r ysgol drwy lythyr neu ffôn, neu bydd rhaid marcio’r gofrestr gydag absenoldeb diawdurdod.
- Mae’n gyfrifoldeb arnoch chi i sicrhau bod eich plentyn yn mynychu’r ysgol. Os ydi’ch plentyn yn absennol heb reswm derbyniol, fe allech chi dderbyn dirwy neu gael achos yn eich erbyn.
- Os ydi’ch plentyn yn absennol ac nad ydych chi wedi rhoi rheswm dros yr absenoldeb, neu os nad ydi’r ysgol yn fodlon â’r eglurhad, bydd yr absenoldeb yn cael ei nodi fel un heb ei ‘awdurdodi’, sef triwantiaeth.
- Os ydych chi’n credu bod rheswm pan nad oes ar eich plentyn eisiau mynd i’r ysgol, fe ddylech chi siarad ag athro / athrawes dosbarth eich plentyn i dderbyn cymorth a chefnogaeth.

Bydd yr ysgol yn awdurdodi absenoldeb eich plentyn ar ôl derbyn rheswm derbyniol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Salwch
- apwyntiadau meddygol neu ddeintyddol na ellir eu methu (os yn bosib fe ddylech chi drefnu’r rhain ar ôl ysgol neu yn ystod gwyliau’r ysgol)
- diwrnodau crefyddol
- materion teuluol eithriadol, fel profedigaeth
- cyfweliad gyda chyflogwr neu goleg
Ni fydd yr ysgol yn awdurdodi absenoldeb eich plentyn os oedd yn absennol oherwydd y canlynol:
- siopa yn ystod oriau ysgol
- taith diwrnod
- Gwyliau yn ystod y tymor ysgol
- pen-blwydd

Rhybudd Cosb Benodedig
Os oes gan eich plentyn 10 diwrnod neu fwy o absenoldeb heb awdurdod, neu’n hwyr ar fwy nag 20 sesiwn (10 diwrnod ysgol), gallech dderbyn Rhybudd Cosb Benodedig.
Os ydych yn talu o fewn 28 diwrnod, y ddirwy yw £60. Os ydych yn talu ar ôl 28 diwrnod, ond o fewn 42 diwrnod, y ddirwy yw £120. Os nad ydych wedi talu’r ddirwy cosb yn llawn erbyn y 43ain diwrnod, gellid cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.