Derbyniadau
Trefniadaeth Derbyn Plant
Derbynnir plant i'r Uned dan 5 i’r flwyddyn ysgol Meithrin am bum bore neu brynhawn yr wythnos cyn belled â'u bod wedi cyrraedd eu pedwerydd pen-blwydd yn ystod y flwyddyn,
h.y. rhwng Medi 1af ac Awst 31ain.

Yn yr un modd derbynnir plant yn llawn amser i'r Dosbarth Derbyn os ydynt yn cyrraedd pump oed cyn diwedd y flwyddyn addysgol. Gall rhieni sy'n ystyried anfon eu plant i'r ysgol drefnu ymweliad i dderbyn mwy o wybodaeth trwy gysylltu â'r Pennaeth ymlaen llaw.
Yn ystod tymor yr haf, gwahoddir rhieni plant newydd i'r ysgol un min nos i gyfarfod a'r Pennaeth a'r Staff i egluro trefniant dysgu yn y Cyfnod Sylfaen ac i drafod unrhyw broblemau yn anffurfiol.
Yn ogystal â hyn yn ystod y cyfnod hwn hefyd gwahoddir rhieni plant newydd i ddod a'u plant i'r ysgol i dreulio ychydig o amser yn y Dosbarth Meithrin. Mae'r profiad yma heb amheuaeth yn helpu'r plant yn eu hawyrgylch newydd ar ddechrau eu gyrfa yn yr ysgol.
Cylch Meithrin y Llys
Mae llawer o'r plant sy'n bwriadu dod i'r ysgol yn mynychu'r Cylch Meithrin a gynhelir bob dydd a Chylch Ti a Fi ar brynhawn Mercher sy'n cael eu rhedeg dan nawdd y Mudiad Ysgolion Meithrin. Fe gynhelir y ddau grŵp yma yn adeilad yr ysgol ac mae'r plant sy'n eu mynychu yn manteisio yn fawr o gael arfer o fod yn yr ysgol a hefyd o fod mewn awyrgylch Gymreig. Gellir cysylltu gyda'r ysgol am fwy o wybodaeth neu i drefnu ymweliad ar 01745 853019.
Rydyn ni’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant ac felly’n ceisio darparu’r safon aur mewn profiadau blynyddoedd cynnar i bob plentyn yn ein gofal.
Rydym yn credu fod gan pob plentyn yng Nghymru yr hawl i Addysg Gymraeg. Trwy’r ddod i’n grŵp a derbyn cefnogaeth sydd ar gael mae modd i’ch plentyn ddilyn taith esmwyth a hyderus i addysg Gymraeg
Fel rhiant, rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw hi i chi deimlo eich bod yn dewis yr addysg gorau i’ch plentyn, ac felly bydd eich plentyn yn derbyn y gofal a’r addysg gorau yn ein Cylch Meithrin ni. Cymraeg yw’r iaith yn ein Cylch Meithrin ond rydym yn rhoi croeso cynnes i bob plentyn, dim ots beth yw’r iaith sy’n cael ei siarad yn y cartref.
Nod ein cylch yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad ein staff proffesiynol, cyfeillgar a brwdfrydig.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd o waith y cylch neu am wybodaeth ynglyn â chofrestru eich plentyn mae croeso i chi gysylltu â ni.
Manylion cyswllt:
Arweinydd: HELEN GILMORE / ANN BEGLEY
01745 798210
helengilmoremeithrin@yahoo.co.uk
