C.Rh.A
Y Gymdeithas Rieni ac Athrawon
C.Rh.A / PTA Facebook
Mae’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn dod â rhieni, athrawon ac eraill ynghyd i godi arian, i gefnogi’r ysgol ac i wneud gwahaniaeth i’r plant. Mae’n rhoi cyfle i bawb gydweithio tuag at wneud Ysgol y Llys yn lle gwych i bob plentyn ac mae’n agored i bob rhiant ac athro hyd yn oed os mai dim ond ychydig o amser sydd gennych i gymryd rhan.
Mae’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon presennol yn dibynnu ar wirfoddolwyr i helpu i redeg digwyddiadau ac mae angen mwy o help bob amser, hyd yn oed os mai dim ond yn achlysurol. Nid oes angen i chi ddod i bob cyfarfod efallai y gallech wirfoddoli mewn ffyrdd eraill megis rhannu eich doniau, sgiliau neu gysylltiadau. Gall pawb wneud gwahaniaeth mawr. Naill ai dewch i gyfarfod neu gadewch eich manylion yn y dderbynfa yn yr ysgol lle mae blwch post gan y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon.
Mae digwyddiadau a gynhaliwyd yn cynnwys:-
- Ffair Haf/Nadolig
- Sioeau Ffasiwn
- Disgos Thema
- Nosweithiau ffilm
- Nosweithiau bingo
- Teithiau cerdded noddedig
- Stondinau lluniaeth dydd mabolgampau
Rydym bob amser yn chwilio am syniadau newydd a chyffrous, os oes gennych un rhowch wybod i ni.
Trwy haelioni a chefnogaeth rhieni a staff y prynwyd yr eitemau canlynol:-
- Citiau rygbi
- Ffedogau newydd
- Llyfrau llafar
- Llyfrau darllen
- Offer allanol
- Cyflenwadau clwb gardd
- Systemau sain
- Chwaraewyr CD/DVD
- Camera digidol