Cwricwlwm
Ers Medi 2022, mae’r fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn statudol i holl ysgolion cynradd Cytmru. Mae prif egwyddorion y Cwricwlwm yn rhan o genhadaeth ac ethos Ysgol y Llys- sef ein bwriad o sicrhau fod pob plentyn yn cael cyfleoedd i fod yn:
- Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
- Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
- Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
- Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Golyga hyn ei fod yn derbyn cwrs addysg yn yr ysgol sydd yn:
- Datblygu’r sgiliau sylfaenol – siarad, darllen, ysgrifennu, gwrando a sgiliau mathemategol, technoleg gwybodaeth;
- Rhoi cyfle iddo/iddi i astudio’i fyd/byd a’i ddehongli
- Magu agwedd gymdeithasol iach tuag at ei gyd-ddyn
- Ei alluogi i dderbyn profiadau amrywiol a chael cyfle i’w mynegi.
Cyrhaeddir yr amcanion uchod drwy weithrediad y Fframweithiau Llythrennedd a Rhifedd yn ogystal a’r Fframwaith Cymhwysedd Ddigidol. Rydym yn mesur cynnydd disgyblion drwy gyswllt Camau Cynnydd y Cwricwlwm i Gymru ac yn credo mai cynnydd personol disgyblion sy’n allweddol.
Y chwe Maes Dysgu a Phrofiad Cwricwlwm i Gymru:
- Celfyddydau Mynegiannol
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Mathemateg a Rhifedd
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Dyniaethau
- Iechyd a Lles
Y nod yw ceisio sicrhau fod plentyn erbyn iddo gyrraedd unarddeg oed yn blentyn fydd yn rhugl yn y ddwy iaith ac yn gallu eu darllen a’u hysgrifennu; yn blentyn fydd yn ymwybodol o’r byd o’i gwmpas ac yn blentyn a gafodd yn ystod ei yrfa ysgol bob cyfle i ddatblygu hyd eithaf ei allu/gallu.

Mae’r ysgol yn defnyddio ystod eang o ffynhonellau i asesu a thracio cynnydd disgyblion. Byddwn yn defnyddio asesiadau personol mewn llythrennedd a rhifedd, profion Profion Glannau Menai a Phrofion Cymru Gyfan.
Bydd y rhan fwyaf o wersi’r plant yn cael eu cyflwyno gan yr athro/athrawes dosbarth ond defnyddir arbenigedd staff i gyflwyno rhai agweddau o’r cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 2 megis Celf, Technoleg ac Addysg Gorfforol.
Sicrheir fod y plant yn cael gwaith gwahaniaethol sy’n addas i’w cyrhaeddiad, ac fe gefnogir unrhyw blentyn sy’n cael anhawster a cheisir ymestyn y plant mwyaf galluog. Os yw plentyn angen cymorth ychwanegol yna daw athrawes gyflogedig gan y Sir i’r ysgol am ddiwrnod a fydd yn cymryd plant yn unigol neu mewn grwpiau bach i gefnogi’r gwaith dosbarth.
Fe asesir y plant yn ffurfiannol drwy’r flwyddyn a defnyddir y wybodaeth yma i sicrhau bod y gwaith a gyflwynir yn addas i anghenion y plant. Mae gan yr ysgol bolisi asesu sydd ar gael i’r rhieni.