Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mrs Emma Robertshaw yw ein Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yma yn Ysgol y Llys. Bydd Mrs Robertshaw yn cydweithio yn agos gyda staff cefnogi yn y grŵp Lles. Mae'r ysgol yn dilyn y côd newydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Gofal Bugeiliol ac ADY yr Ysgol
Un o brif egwyddorion a chredoau’r ysgol yw’r pwysigrwydd ar ofal a lles ein disgyblion. Mae gennym tim cynwysiant o dan arweinyddiaeth ein CADY sy’n cefnogi disgyblion efo anhawsterau lles, cymdeithasol, ymddygiad. Mae ein darpariaeth ‘Grŵp Lles’ ar gael i blant sydd angen cefngoaeth, boed yn fyr dymor neu yn hir dymor.
Mae disgwyliadau uchel yn yr ysgol o ran ymddygiad disgyblion. Mae hyn yn cael ei ddatblygu wrth annog awyrgylch ac hinsawdd adeiladol, ac un o barch- staff at disgyblion a disgyblion i staff. Mae yna fwy o fanylion am Bolisi Ymddygiad a Gwrth Fwlio a'r tudalen Polisiau.
Grŵp Lles y Llys
Rydym yn ffodus iawn yn Ysgol y Llys i gael Grŵp Lles i gefnogi plant sydd ar brydiau wedi profi anawsterau emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiad gyda rhaglenni addysg lwyddiannus iawn fel 'Seasons for Growth' a 'Friends Resilience'. Mae grŵpiau yn cael eu cynnal, o dan oruchwyliaeth Miss Hanna Hughes, Mrs Rhianwen Mason a Mrs Bethan McCabe.


Seasons for Growth
Yma yn Ysgol y Llys rydym yn cynnig rhaglen addysg lwyddiannus iawn o'r enw 'Seasons for Growth'.
Nod y rhaglen hon yw cryfhau lles cymdeithasol ac emosiynol plant a phobl ifanc sy’n delio â newidiadau sylweddol mewn bywyd drwy:
- Archwilio effaith y newid a'r golled ar fywyd bob dydd.
- Dysgu ffyrdd newydd o ymateb i'r newidiadau hyn.
Cynhelir y sesiynau mewn grwpiau bach o 4 – 6 o ddisgyblion ac fe’u cynhelir yn wythnosol am wyth wythnos gan ein ‘Cydymaith’ hyfforddedig Mrs Gina Wilkins. Daw'r rhaglen i ben gyda sesiwn 'Dathlu' ac mae'r grŵp yn cyfarfod yn ddiweddarach yn y flwyddyn am ddwy sesiwn arall i adeiladu ar ddysgu cynharach.
Friends Resilience
Mae’r rhaglenni FRIENDS yn helpu pobl o bob oed i feithrin gwydnwch, hyder a lles emosiynol sy’n gwella canlyniadau dysgu a chymdeithasol mewn ysgolion, teuluoedd a lleoliadau gwaith.
Yn Ysgol y Llys rydym yn cynnig ‘Ffrindiau Hwyl’ i ddisgyblion 4-7 oed, er mwyn hybu datblygiad cymdeithasol cadarnhaol, a ‘Ffrindiau am Oes’, i ddisgyblion 8-11 oed, i ysbrydoli hyder a chryfder emosiynol.
Mae'r disgyblion yn gweithio mewn grwpiau bach gydag aelod hyfforddedig o staff am 10 sesiwn wythnosol. Nod y sesiynau hyn yw:
- adeiladu hunan-barch a hyder
- adeiladu cryfder cymdeithasol ac emosiynol
- helpu i atal pryder
- nodi a datblygu rhwydweithiau cymorth
- rhoi'r sgiliau a'r offer i ddisgyblion ymdopi â straen bywyd, meithrin gwytnwch


Ci Therapi
Mae plant a staff Ysgol y Llys, Prestatyn yn awyddus i gael ci therapi yn yr ysgol er mwyn cefnogi lles a chymhelliant y plant drwy'r ysgol.
Gall gael ci therapi;
- Helpu unigolion i ddatblygu sgiliau cymdeithasol
- Hybu sgwrs
- Gwella hunan-barch a hyder plant
- Gael effaith gadarnhaol ar sgiliau cymdeithasol
- Rhwystro cynhyrchiad o'r hormon cortisol
- Leihau pryder a straen a darparu cysur anfeirniadol
- Leihau unigrwydd
- Symbylu’r synhwyrau
- Ddysgu Empathi
- Helpu gyda sgiliau datrys problemau a chreadigrwydd
- Gwella cymhelliant plant
Dyma Nel, ci bach athrawes Miss Anna Jones. Mae Nel yn gi annwyl iawn sy'n llawn egni ac mae hi wrth ei bodd yng nghwmni plant.