Ysgol Goedwig
Beth yw pwrpas datblygu Ysgol y Llys fel Ysgol Goedwig?
‘Mae Ysgolion Coedwig yn ddull arloesol o addysgu drwy chwarae a dysgu yn yr awyr agored’
Mae Ysgol y Llys yn cyfuno gydag athroniaeth Ysgolion Coedwig, sef annog ac ysbrydoli unigolion o unrhyw oadran drwy brofiadau positif a chyfranogaeth mewn gweithgareddau a thasgau diddorol, cymhellgar a phosibl mewn amgylchedd coediog, gan helpu i ddatblygu sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol:
- Annibyniaeth
- Darganfod eu medrau
- Hyder
- Sgiliau cyfathrebu
- Cynyddu hunan-barch
Mae angen amser ar blant i archwilio eu syniadau, eu teimladau a’u perthynas gydag eraill yn drwyadi. Mae hyn yn datblygu eu dealltwriaeth o’r byd, yr amgylchedd a phopeth o fewn yr amgylchedd drwy ddefnyddio eu hemosiynau, eu dychymyg a’u synhwyrau.