YSGOL Y LLYSLles Gwerin, Llys Agored Rhodfa'r Tywysog, Prestatyn, Sir Ddinbych LL19 8RP

Clybiau Ysgol

Rhoddir pwyslais yn Ysgol y Llys ar gynnig clybiau allgyrsiol i blant tu allan i oriau ysgol. Mae hyn yn rhan o ethos yr ysgol o gynnig cyfloed i blant mewn meysydd amrywiol, ac er mwyn datblygu’r plant yn gyflawn.

Gweler y tabl isod am glybiau allgyrsiol yr ysgol am yr hanner tymor nesaf. Does dim cost i’r dysgwyr fynychu. Gofynnwn yn garedig eich bod yn brydlon ar gyfer pigo eich plentyn i fynu. Clybiau i gychwyn wythnos yn cychwyn y 13eg o Ionawr, oni bai y noder yn wahanol.


Trwy’r flwyddyn academaidd mae Clybiau amrywiol ar gael i ddisgyblion.
Staff ysgol sy’n bennaf gyfrifol am gynnal y sesiynau ond rydym yn ffodus iawn hefyd o gael rhieni gweithgar sy’n fodlon rhoi o’u hamser er lles y disgyblion.

Rydym yn ffodus hefyd ar safle Ysgol y Llys i gael caeau pwrpasol i gynnal y gweithgareddau amrywiol. Pan nad yw’r tywydd yn caniatáu, mae gennym gampfa chwaraeon aml bwrpas.

Mae Clybiau ar ôl ysgol Ysgol y Llys yn gallu cynnwys y canlynol:

  • Clwb Pêl droed
  • Clwb Rygbi
  • Clwb Pêl rwyd
  • Clwb Criced
  • Clwb Dal i Fynd
  • Clwb Gemau
  • Clwb Garddio
  • Clwb Coginio
  • Clwb Caligraffi

18 Hydref 2024 – Llongyfarchiadau i’r tîm pêl-droed Bl.3 a 4 nath gymryd rhan yn nhwrnament Urdd Sir Ddinbych ddoe. Balch iawn ohonnach chi. Llongyfarchiadau hefyd i’r tîm genethod nath gymryd rhan. Roeddech chi’n wych.

Mae’r clybiau yn rhedeg fesul hanner tymor ac mae llythyr yn mynd allan i rieni ar ddechrau bob hanner tymor yn nod i bwy ac ar ba ddyddiau y mae’r gweithgareddau.
Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniadau rhieni, ac yn falch o dderbyn unrhyw sylwadau ar yr hyn sy’n cael ei gynnig.

Tu hwnt i weithgareddau’r ysgol, mae’r neuadd hefyd yn cael ei hurio yn allanol.
Mae Clwb Karate Adrian Wright yn cyfarfod bob nos Fawrth a nos Wener, tra cynigir Gwersi Gymraeg gan Goleg Harlech i oedolion yn llyfrgell yr ysgol bob prynhawn dydd Mercher. Cysylltwch â’r ysgol am ragor o wybodaeth.