Mae Ysgol y Llys yn creu amgylchfyd hapus a diogel i holl blant yr ysgol. Ein nod yw datblygu hunan hyder a hunan ddisgyblaeth mewn awyrgylch ofalgar a chynhaliol.
Hyfforddir y plant gan staff gymwys a brwdfrydig, a fydd yn mynnu y safonau uchaf, fel bod pob plentyn yn datblygu i’w l/llawn botensial ymhob agwedd.
Rydym fel ysgol Gymraeg yn sicrhau bod holl blant yr ysgol yn datblygu’n hollol ddwyieithog.
Sefydlwyd yr ysgol fel un gynradd ddwyieithog benodol ddyddiol yn 1975. Dewis y rhieni yw anfon eu plant i’r ysgol a cheir cymysgedd o Gymry Cymraeg a phlant o gartrefi di Gymraeg tref Prestatyn a’r ardaloedd cyfagos.
Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol ond Saesneg eu hiaith ydy mwyafrif y newydd ddyfodiaid. Rhaid felly gwneud pob ymdrech posibl i ddysgu’r Gymraeg iddynt mor fuan ag sydd yn bosibl er mwyn iddynt fedru ymroddi i mewn i fywyd yr ysgol. Erbyn diwedd eu gyrfa yn yr ysgol hon trosglwyddir y plant i Ysgol Uwchradd Glan Clwyd.